Gwlad y Sgydau 

Roedd hi’n fore Sadwrn braf ac roedd DIY ar yr agenda… felly, yn naturiol, penderfynais y dylem ni dreulio diwrnod yn yr awyr agored, yn lle bod yn sownd yn y tŷ!
Fel unigolyn petrus do’n i ddim yn gallu dewis ble i fynd, ond am nad yw fy mhartner yn gyfarwydd â’r de, bu’n rhaid i mi awgrymu gwahanol leoedd a dod i benderfyniad ‘gwybodus’. 

“Castell Coch?”, awgrymais. “Na, na… beth am Sain Ffagan? Ŵŵ, Castell Caerffili!”, ychwanegais yn gyffro i gyd. Ond na, doeddwn i ddim yn hapus gyda’m awgrymiadau. Roedd angen i mi feddwl yn uchelgeisiol ac edrych y tu hwnt i goridor yr M4 (o ninnau, ddinasyddion cul ein meddwl!) ac yna, dyna fe. “Beth am y rhaeadr ‘na chi’n gallu cerdded tu ôl iddi?”, awgrymais. Rhuthrais i lawr y grisiau i’r silff lyfrau ac agor fy nghopi o’r llyfr gwych Day Walks in the Brecon Beacons gan Harri Roberts a dyna lle’r oedd taith gerdded trwy Wlad y Sgydau. Perffaith!

Aethom ni ati i wisgo dillad addas, casglais fy nghamera o’r ystafell fwyta (cyfle gwych i mi ymarfer defnyddio’r camera SLR ges i am fy mhen-blwydd), paratoeon ni ginio, pacio’r car, ac anelu am yr A470. 

Ro’n i’n teimlo ar ben fy nigon wrth i ni grwydro i fyny’r cwm tua Bannau Brycheiniog. Roedd hi’n heulog, mymryn yn oer, ac yn teimlo’n hydrefol – fy hoff adeg o’r flwyddyn. Roedd y golygfeydd wrth i ni ddynesu at Ferthyr Tudful yn odidog ac roedd rhyw naws Lychlynnaidd gyda haul isel mis Medi’n tywynnu trwy frigau’r coed.

Wrth i ni yrru ymhellach i’r gogledd, roedd y dirwedd yn troi’n fwyfwy moel a’r tirlun yn edrych yn fwyfwy nodweddiadol o Deyrnas Brycheiniog. Aethom ni drwy bentref Penderyn (ces i fy siomi nad oedd sawr wisgi yn yr awyr) ac ymhen rhai munudau, ar ôl igamogi trwy lonydd culion, cyrhaeddon ni faes parcio Cwm Porth ger Ystradfellte.

Oherwydd cyfyngiadau amser, bu’n rhaid i ni addasu’r daith yn fy llyfr. Ro’n i wir am fynd i Sgwd yr Eira (y rhaeadr â llwybr y tu ôl iddi), felly ar ôl astudio’r map penderfynon ni ddilyn llwybr a fyddai’n ein harwain i Sgwd yr Eira, Sgwd y Pannwr, Sgwd Clun-gwyn, a Sgwd Isaf Clun-gwyn.
Roedd hi’n ddiwrnod eithaf prysur yng Ngwlad y Sgydau, gyda theuluoedd, grwpiau o ffrindiau, a chymdeithasau cerdded i gyd yn gwneud y gorau o’r heulwen cyn iddi aeafgysgu…

Ein harhosiad cyntaf oedd Sgwd yr Eira, ond roedd hi’n cymryd oesoedd i ni gyrraedd. Wel, roedd hi’n teimlo felly i mi ta beth… dyna yw melltith cyffro!

Ar ôl dilyn llwybrau creigiog, troellog, serth ar adegau, dyma gyrraedd cyfeirbwynt gyda’r geiriau lledrithiol, swyngyfareddol Sgwd yr Eira. Trois ar fy sawdl a dilyn llwybr anwastad tan i mi gyrraedd gris. Wel, 170 gris i fod yn fanwl gywir. Roedd y rhain yn arwain i lawr i’r sgwd, ac roedden nhw’n disgwyl yn arswydus, braidd. “Dim ots”, medden i, “ry’n ni’n dilyn llwybr crwn. Fyddwn ni ddim yn gorfod dringo’r grisiau hefyd”. Mor anghywir oeddwn i..! Er mai llwybr crwn roeddem ni’n ei ddilyn, cangen o’r prif lwybr oedd hon. Roedd dringo’r 170 gris serth er mwyn ailymuno â’r llwybr yn anochel.

Ta waeth, ar ôl mynd i lawr y grisiau treulion ni gryn amser yn edmygu’r pistylloedd crisial balch yn ymchwyddo ac yn ymhyrddio dros ymyl clogwyn mwsoglyd, gan ferwi’n wyllt wrth gyrraedd cam nesaf eu taith i lawr yr afon. 

Ymlwybron ni’n garcus dros garped creigiog y lan gan agosáu at y dramwyfa laith y tu ôl i’r sgwd. A dyna lle’r oeddwn i, wedi fy mharlysu gan syfrdandod, y tu cefn i len eiraog y rhaeadr. Roedd hi wir yn deimlad gwefreiddiol!

Ar ôl troedio’n ofalus i ochr arall y llyn, tynnon ni lwyth o luniau, ac eisteddon ni wrth ochr y dŵr gan feithrin y nerth i ddychwelyd i’r grisiau a’u dringo er mwyn parhau â’n taith. 

Dringo a wnaethom, ac â’n gwynt yn ein dyrnau, aethom ni yn ein blaenau.

Yr ail raeadr ar ein taith oedd Sgwd y Pannwr, wedi’i dilyn gan Sgwd Isaf Clun-gwyn ac, yn olaf, Sgwd Clun-gwyn.

Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl o’r sgydau eraill, ond rhaid i mi gyfaddef, ces i fy swyno gan Sgwd y Pannwr. Gyda nifer o lifau yn ymdaflu dros y creigiau, roedd rhywbeth trawiadol am nerth a chyfaint y dylifiadau. Gallaf ddychmygu y byddai’r olygfa hyd yn oed yn fwy cynhyrfus ar ôl glaw mawr, gyda’r dŵr yn anterth ei nerth!

Yn anffodus, methon ni â gweld Sgwd Isaf Clun-gwyn… meddyliais ar y pryd fod y sgwd yr oeddwn yn meddwl ei bod yn Sgwd Isaf Clun-gwyn ymhlith y sgydau isaf eu bri, gyda’r dŵr yn diferu’n ddiog dros garreg wastad, fechan. Ar ôl edrych ar-lein gartref, sylwais ein bod wedi gweld y ‘sgwd’ anghywir! Ŵps..!

Roedd Sgwd Clun-gwyn yn ddirfawr, er hynny, a’r dŵr yn rhaeadru’n hyderus i’r afon islaw, a thorfeydd wedi rhewi o flaen y llif yn llawn parchedig ofn. 
A chymryd popeth at ei gilydd, ces i ddiwrnod arbennig ym Mhowys, ar drywydd sgydau Afon Hepste ac Afon Mellte.

Edrychaf ymlaen at ddychwelyd eto, a dod o hyd i’r holl sgydau (a’r rhai cywir, at hynny).

Advertisements

One thought on “Gwlad y Sgydau 

  1. Dyma gynnig arall ond trueni na chest ti’r llall achos ymateb sythbin oedd o wedi cael blas mawr ar y darn. Adroddiad gafaelgar a chyffrous gydag arddull ac ieithwedd fyrlymus fel y rhaeadrau yn y darn. Mae gwir ddawn llenydda fan hyn ac mae’r ffotograffiaeth yn gwireddu’r delweddau godidog a ddisgrifir yn y darn. Dylid ystyried llunio cyfrol teithiau cerdded newydd yn y Gymraeg. Mor falch fy mod wedi agor a darllen y darn.

    Hoffwyd gan 1 person

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s