Pride Caerdydd – Myfyrdodau bachan hoyw o’r brif ddinas

Pride Hapus, Gaerdydd!

Bydd hi’n benwythnos Pride yn y brif ddinas ymhen rhai dyddiau, ac rwy wedi bod yn hel fy meddyliau am Pride yn ddiweddar, a phenderfynais droi myfyrdodau’n eiriau!
Yn gyntaf, hoffwn i ddymuno pob hwyl i bawb a fydd yn mynd i’r dathliadau.
Bydd rhai o’m ffrindiau’n synnu, falle, wrth ddarllen y fath ddymuniad gen i; ro’n i’n arfer cellwair mod i’n ddyn hoyw homoffobig.

A dweud y gwir, yn y gorffennol roedd rhan ohono i oedd yn ansicr am orymdeithiau Pride; ro’n i’n teimlo bod dangos ein hunain – gwneud sioe o’n hunain – dim ond yn amlygu ein bod ni’n ‘wahanol’. Ro’n i’n teimlo bod y gorymdeithiau Pride, mewn ffordd eironig, yn mynd yn groes i ddiben y mudiad ac yn ein dal ni’n ôl, gan atal y gymdeithas hoyw rhag normaleiddio, rhag cael ei derbyn.

Ond y gwir amdani, wrth i mi aeddfedu, gweld mwy o’r byd, deall gwleidyddiaeth yn well, gwerthfawrogi hawliau dynol, a bod yn fwy cyfforddus yn fy nghroen fy hun, rwy’n credu bod gwerth i Pride, i’r gorymdeithiau, i’r dathlu ac i’r protestio.

Ydyn, rydyn ni wedi dod ymhell yng Nghymru – mae cyfunrhywiaeth a pherthnasau cyfunrhywiol wedi’u dad-droseddoli, mae’r oed cydsynio wedi’i unioni, galla’ i briodi fy sboner erbyn hyn, ei nodi’n berthynas agosaf pan af i’r ysbyty, derbyn ei bensiwn pe bai’n marw cyn y fi, mabwysiadu plant… ond mae dal peth ffordd i fynd cyn cyrraedd cydraddoldeb llwyr.

O ystyried yr holl ddatblygiadau uchod, bydd rhai ohonoch chi’n gofyn, o bosibl, “Beth arall wyt ti moyn? Mae bod yn hoyw yn gyfreithlon, ti’n cael priodi…”

Ond, gyfeillion, dyw popeth ddim yn berffaith o bell ffordd.

Mae cymaint o bethau mae’n hawdd i rywun yn y mwyafrif eu hanwybyddu (yn gwbl ddiniwed), breintiau y mae’n bosibl eu cymryd yn ganiataol.

Oeddech chi’n gwybod..?

Wrth gwrdd â phobl newydd rwy’n gallu mynd i deimlo’n nerfus, a cheisio cuddio elfennau o’m person rhag i mi wynebu anawsterau. Pan fydd y sgwrs yn troi at gymheiriaid, neu pan fydd rhywun yn sylwi ar fy modrwy ddyweddïo ac yn dechrau holi, rwy’n teimlo straen ac yn ofni weithiau. Ofni, a fydd gan rywun broblem â phobl hoyw? Beth fydd eu hymateb? A fydda’ i’n cael fy ystyried yn rhyfedd? Yn cael fy ngwrthod gan y grŵp? Pryderon plentynaidd i rai efallai, ond dyna yw fy realiti i.

Wrth gerdded i lawr y stryd gyda’m dyweddi, dydw i ddim fel rheol yn rhodio law yn llaw fel llawer o’m ffrindiau strêt. Weithiau sai’n teimlo’n ddiogel. Weithiau sdim awydd gen i dderbyn sylw negyddol, annymunadwy. Cyn i mi ganiatáu fy hun i ddal llaw fy nghariad, rhaid i mi dalu sylw a dadansoddi’r lleoliad – pa fath o bobl sydd o’m cwmpas? Faint o’r gloch ydy hi? Ydy hi’n dywyll? Ac yna dyma fi’n mynd i bendroni… sawl person fydd yn syllu heddiw? A fydd rhywun yn dweud rhywbeth? A fydd rhywun yn fy herio i? Yn fy mygwth i? Yn fy nilyn i? Yn ymosod arna’ i?

Dim ond cwpl o fisoedd yn ôl darllenais erthygl am grŵp o fechgyn yn ymosod ar gwpl hoyw ar y trên i Lundain. Roedd yr anafiadau mor ddifrifol y bu’n rhaid i un o’r cwpl gael triniaeth frys yn yr ysbyty.
Ers pleidlais Brexit, mae nifer y troseddau casineb wedi codi’n aruthrol yng ngwledydd Prydain.

Yn wir, yn y tri mis cyntaf wedi’r bleidlais cododd ymosodiadau homoffobig 147% yn ôl yr elusen gwrth-drais LHDT Galop. Ystadegyn brawychus, byddwch chi’n cytuno, mae’n siŵr, hyd yn oed os nad ydych yn un sy’n brwydro dros hawliau LHDT.
Yn amlwg dyw pethau ddim yn berffaith, hyd yn oed yn ein cymdeithas orllewinol, agored, ryddfrydol, fwyfwy seciwlar ni… mae’r frwydr yn dal i barhau.

Pan fyddwn ni gyd yr un fath ac yn cael yr un driniaeth, pan fydda’ i’n byw mewn cymdeithas lle galla’ i fod yn fi fy hun heb yr un awgrym o ofn neu bryder, gall y cysyniad o Pride bennu – efallai! Ond tan hynny, does dim ots faint o ddatblygiadau a wneir, rhaid i’r brwydro barhau, rhaid i ni fynnu cydraddoldeb, hawliau ac amddiffyniad, a pheidio â bod yn fodlon ar y status quo. Rhaid i ni fod yn weladwy ac nid yn rhyw boblogaeth gudd, danddaearol.

Trwy fod yn anweladwy, mae’n haws i’r rhai sydd yn ein herbyn ymosod arnom yn rhydd ac yn ddi-her.

Trwy fod yn anweladwy, gall pobl fynd i ddrwgdybio a cham-ddeall y gymdeithas.

Dyna pam, yn fy marn i, mae gwerth i’r gorymdeithiau Pride.

Mae’r ffaith eu bod yn ddathliadau ar gyfer y teulu cyfan yn helpu i ddangos ein bod yn gymdeithas agored a chroesawgar. Mae’r ffaith ein bod yn gorymdeithio â balchder, ac â chefnogaeth cwmnïau, busnesau, gwleidyddion, sefydliadau cyhoeddus a phreifat, elusenau, ffigyrau cyhoeddus adnabyddus, mawr eu parch yn dangos nad oes dim rheswm i ni gywilyddio a chuddio, ac nad oes dim rheswm i bobl eraill fod ag ofn ymwneud â ni.

Hyd yn oed pe bai popeth yn berffaith gartref, rwy’n rhyw deimlo y byddai dyletswydd arnom ni i barhau i orymdeithio i ddangos cydgefnogaeth â’n brodyr a’n chwiorydd mewn gwledydd lle nad yw materion LHDT yn cael eu trafod, lle nad oes ganddynt hawliau; i annog ein gwleidyddion yma i roi pwysau ar y gwledydd ‘dan sylw i barchu eu dinasyddion LHDT, ac i ddangos i’r byd fod y frwydr yn fyw a thros bawb.

Byddai’n braf byw mewn byd lle nad yw Pride yn angenrheidiol, ond tan hynny mae’n braf ein bod ni’n gallu dathlu ein hunaniaeth a dod ynghyd mewn cydgefnogaeth.

Gadael sylw